Math | art museum, sefydliad di-elw |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1876 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Philadelphia |
Gwlad | UDA |
Cyfesurynnau | 39.9658°N 75.1814°W |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth yr Adfywiad Groegaidd, pensaernïaeth Art Deco |
Sefydlwydwyd gan | Anna H. Wilstach, William P. Wilstach |
Mae Amgueddfa Gelf Philadelphia, a gaiff ei adnabod yn lleol fel "Yr Amgueddfa Gelf", yn un o amgueddfeydd celf mwyaf yr Unol Daleithiau. Fe'i lleolir ar ochr orllewinol y Benjamin Franklin Parkway ym Mharc Fairmount Philadelphia. Sefydlwyd yr amgueddfa ym 1876 mewn cydweithrediad a'r Dangosiad Canmlwyddiant yn yr un flwyddyn. Yn wreiddiol, cafodd ei alw'n Amgueddfa ac Ysgol Pennsylvania o Gelf Diwydiannol a chafodd ei ysbrydoli gan Amgueddfa De Kensington yn Llundain, (bellach Amgueddfa Victoria ac Albert). Agorodd yr amgueddfa i'r cyhoedd ar y 10fed o Fai, 1877. Cwblhawyd prif adeilad presennol yr amgueddfa ym 1928.
Mae casgliad yr amgueddfa yn cynnwys gwaith Marcel Duchamp, Auguste Rodin, Paul Cézanne, Vincent van Gogh, Édouard Manet, Claude Monet, Pierre-Auguste Renoir, Camille Pissarro, ac Edgar Degas. Mae hefyd gwaith artistiaid o’r Unol Daleithiau, megis gwaith y Crynwyr ac Almaemwyr Pennsylvania.[1]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search